Cyfraith cyflogaeth
Ymgyfreitha
Cyngor Cyfreithiol Annibynnol ar Gytundebau Setliad
Os ydych wedi cael cynnig cytundeb setliad gan eich cyflogwr, mae’n ofyniad cyfreithiol i gael cyngor cyfreithiol annibynnol cyn llofnodi. Rydym yma i helpu. Mae ein tîm profiadol yn gallu cynnig arweiniad clir ac ymarferol sy’n addas i’ch amgylchiadau unigol.
Fel arfer, caiff ein ffioedd am gynghori ar gytundebau setliad eu talu’n uniongyrchol gan eich cyflogwr, ac maent fel arfer rhwng £250 + TAW a £500 + TAW,yn dibynnu ar gymhlethdod y cytundeb. Mewn llawer o achosion, nid oes angen i chi dalu dim byd eich hun.
Rydym yn deall bod cytundebau setliad yn aml yn codi mewn sefyllfaoedd sensitif neu straen. Gallwch ddibynnu arnom i ddarparu cyngor cyfrinachol, amserol a chefnogol i sicrhau eich bod yn deall eich hawliau a’ch opsiynau yn llawn cyn symud ymlaen.
Cysylltwch â ni heddiw i drefnu ymgynghoriad cyflym a chyfleus.