Cynghorwyr Cyfreithiol Cynhwysfawr Gorllewin Cymru
Williams and Bourne Solicitors
Rydym yn darparu gwasanaeth effeithlon a phroffesiynol i'r rhai sy'n ceisio cymorth gydag ystod o faterion cyfreithiol. Mae gwasanaethau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. Mae manylion y gwasanaethau rydym yn eu cynnig ar gael ar y dudalen we hon ond rydym yn hapus i dderbyn unrhyw ymholiad trwy e-bost neu dros y ffôn. Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni.
Cysylltwch i wneud apwyntiad neu galwch i ddweud helo!
Gwasanaethau Cyfreithiol y gallwch chi drystio
Gwasanaethau
Cydwybodol a phroffesiynol
Beth mae pobl yn dweud amdanom ni?
Tystebau
Oes gyda chi gwestiwn?
Cwestiynau sy'n codi
Rydym yma i'ch cynorthwyo pum diwrnod yr wythnos a'r gobaith yw y byddwn yn ateb unrhyw ymholiad o fewn 24 awr.
Mae prisiau penodol gydag amryw o wasanaethau cyfreithiol yr ydym yn cynnig.
Mae rhain yn cynnwys:
Gwerthu a Phrynu Preswyl
Ewyllysiau a phwerau atwrnai
Gwerthu a Phrynu Masnachol
Ymgyfreitha
Mater Cyfraith Teulu
Atwrneiaeth gyffredinol
Sylwch nad yw prisiau penodol bob amser yn bosibl. Cysylltwch â'r dderbynfa am ragor o wybodaeth
All quoted fees are subject to VAT at the prevailing rate. Clients should be aware that the rate of VAT is set by the government and may change between the time a quote is given and the time an invoice is issued. To ensure full transparency, we will always confirm the current VAT rate applicable at the time of issuing a fixed-fee quote. In accordance with the SRA Transparency Rules, total prices provided—whether in writing or on our website—will clearly state both the net fee and the applicable VAT amount.
We cover most everyday substantive areas of law which individuals and businesses are likely to require.
There are some exceptions. On the rare occasions we cannot help, we will tell you from the start and assist you where we can in referring you to someone who can.
Gallwch edrych ar broffil ein holl gyfreithwyr ar dudalen 'Cwrdd â Ni'. Unwaith y byddwn wedi cael cyfarwyddyd gennych, byddwch yn derbyn llythyr gofal cleient yn dweud wrthych pwy sydd wedi'i aseinio i chi ar ddechrau y broses.
Er ein bod ni yn credu ein bod yn darparu gwasanaeth da bob amser, rydym yn gwerthfawrogi y gall achlysuron godi pan na chaiff eich disgwyliadau eu bodloni'n llawn.
Mae gennym bolisi sydd yn ymdrin â chwynion a mae gwybodaeth am hyn yn ein llythyr cychwynol. Byddwn hefyd yn rhoi copi o'n dogfen telerau ac amodau i chi ar ddechrau y broses.
Rydym yn cael ein rheoli gan yr SRA.
Mae Williams and Bourne yn cynnig gwasanaeth hyblyg i gwrdd ag anghenion ein cleientiaid. Rydym wedi gwneud hynny ers nifer o flynyddoedd ac yn bwriadu parhau gyda'r lefel yma o wasanaeth am flynyddoedd i ddod.
Gallwch gyfathrebu â ni drwy e-bost, galwad ffôn neu drwy apwyntiad rithiol. Pan fydd angen llofnod ar ddogfen, mae modd trefnu i ni ddanfon y ddogfen drwy'r post,
Cysylltwch
Ry'n ni yma i'ch helpu!
Rydym yn hapus i gynorthwyo o Ddydd Llun i Ddydd Gwener a byddwn yn anelu i ateb eich ymholiad o fewn 24 awr.
Ebost
Cysylltwch gyda'r tîm drwy ebsotio:
mail@williamsandbourne.co.uk
Ymholiadau cyffredinol
Llanbedr Pont Steffan: 01570 422 206
Llandysul: 01559 363 244