Pwerau atwrnai ac Atwrneiaeth Gyffredinol
Pwerau Atwrnai
Mae hyn yn risg wirioneddol i bob un ohonom na fyddwn ar ryw adeg yn y dyfodol mewn sefyllfa i reoli ein materion ariannol. Fodd bynnag, mae'n bosibl sicrhau, os na fyddwch yn gallu delio â'ch materion ariannol, bod rhywun yr ydych yn ymddiried ynddo yn cael ei benodi i ymdrin â'r materion hyn. Mae’n bosibl paratoi Atwrneiaeth Arhosol (LPA) i benodi rhywun sydd wedi ymrwymo i ofalu am eich lles gorau. Mae LPA yn ddogfen gyfreithiol sy’n galluogi rhywun i benodi un neu fwy o bobl i reoli eu materion ariannol naill ai nawr neu yn y dyfodol. Gellir paratoi LPA mewn perthynas â’ch materion ariannol a hefyd mewn perthynas â’ch lles personol / gofal iechyd. Cysylltwch â ni am fanylion pellach.
Atwrneiaeth gyffredinol
Mae'n bosibl paratoi dogfen sy'n galluogi person arall i ddelio â'ch materion ariannol. Os ydych yn dymuno penodi rhywun i ddelio â mater penodol neu am gyfnod penodol, er enghraifft os ydych yn mynd ar wyliau ac yn dymuno rhoi awdurdod i rywun wneud penderfyniadau ynghylch eich cartref, yna gellir paratoi pŵer atwrnai cyffredinol i gwmpasu’r sefyllfa hon. Gellir paratoi Pŵer Atwrnai Cyffredinol am tua £150 ynghyd â TAW, cysylltwch â ni am ragor o fanylion.
Sylwch y bydd Pŵer Atwrnai Cyffredinol yn dod i ben os bydd y sawl sy’n gwneud y pŵer yn colli galluedd. Os dymunwch i’r atwrneiaeth barhau hyd yn oed os nad oes gennych alluedd, yna mae’r Atwrneiaeth Arhosol a ddisgrifir isod yn fwy addas.